Mae'r Athro Ann John a'i thîm o ymchwilwyr yn yr Ysgol Feddygaeth yn archwilio iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal ag atal hunanladdiad a hunan-niwed

Buom yn siarad ag Ann am ei gwaith ymchwil: 

“Nid oedd fy llwybr gyrfa o fod yn Feddyg Teulu i ymchwil ym maes atal hunanladdiad wedi'i gynllunio. Heb amheuaeth mae rhai cleifion wedi aros yn y cof, boed hynny am fod eu poen yn amlwg yn syth neu'n ymddangos yn hwyrach. Mae’r unigolion hyn wedi chwarae rhan enfawr ar hyd fy nhaith.

"Nid yw hunanladdiad yn anochel. Rhaid i ni gymryd 

camau gweithredu cynhwysfawr i liniaru risgiau'n

 gynnar, o ddiogelu ariannol i wasanaethau rheng flaen - mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol, gofal iechyd meddwl, trais domestig ac amodau cymdeithasol-economaidd.

"Mae'n teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth - mewn ffordd wahanol iawn ond yr un mor bwysig - â fy niwrnodau mewn gofal clinigol uniongyrchol".

Drwy gefnogi'r ymchwil feddygol bwysig hon, gallwch ein helpu i achub bywydau am flynyddoedd i ddod.

Mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ymysg pobl ifanc

Ar ôl byw drwy bandemig, mae ein myfyrwyr bellach yn wynebu argyfwng costau byw. Yn yr amserau ansicr hyn, mae'n fwy heriol nag erioed i addasu i fywyd yn y brifysgol a'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cymorth rhagorol i'n myfyrwyr, ond rydym bob amser yn ceisio gwneud mwy.

Mae pawb yn gwybod bod ymarfer corff yn dda ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae myfyrwyr sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl gan ein timau lles yn aml yn ei chael hi'n anodd cynnal ffyrdd o fyw iachus neu ni allant fforddio ffïoedd campfa neu ddosbarthiadau ymarfer corff ar ben costau byw cynyddol.

Dyna pam rydym am ddarparu ymarfer corff a gefnogir ac a ariennir i roi hwb i les ein myfyrwyr. Gallwch ein helpu i wneud ymarfer corff yn fwy hygyrch, sicrhau bod staff y gampfa wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a chynnig lle diogel i fyfyrwyr bregus wneud ymarfer corff.

Bydd cefnogi lles ein myfyrwyr yn rhoi'r dechrau gorau posib iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae'r proffesiwn nyrsio mewn argyfwng 

Mae prinder staff ac mae llawer o nyrsys yn teimlo bod diogelwch cleifion mewn perygl*.

Mae ein myfyrwyr nyrsio yn jyglo eu pryderon eu hunain yn ogystal â phryderon eu cleifion. Bydd yr Hyb Nyrsio i Fyfyrwyr yn fan diogel i fyfyrwyr nyrsio gydnabod symptomau eu hiechyd meddwl eu hunain, dod o hyd i gymorth a datblygu dulliau ymdopi, gan greu mwy o wytnwch yng ngweithlu'r GIG.


Bydd yr Hyb yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod eu profiadau â'u cyd-fyfyrwyr nyrsio, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a nyrsys profiadol sydd wedi bod yn eu sefyllfa hwy.

Bydd y sgiliau y mae ein myfyrwyr nyrsio yn eu hennill o'u hastudiaethau, a'r cymorth y maent yn ei gael gan yr Hyb yn sicrhau eich bod chi a'ch perthnasau'n derbyn y gofal gorau posib, o wardiau esgor i gartrefi gofal a phopeth rhyngddynt.

*The UK nursing crisis – 2021 and beyond | Nursing Times